Hywel Dda University Health Board (UHB) is asking the people of Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire to help it further shape and deliver future services by taking part in a six-week engagement exercise.

Since the publication of its strategy, A Healthier Mid and West Wales: Our Future Generations Living Well in 2018, the health board has worked with partners to provide care and develop services. However, the coronavirus pandemic has had a major impact on health and care services. As a result, the health board now wants to learn from the public about how the pandemic has affected their health and care, and access to it.

From Monday 10th May, Hywel Dda UHB is distributing a discussion document for the public to consider, along with a questionnaire for completion.

Hywel Dda UHB is also asking for the public’s feedback in relation to its long-term strategy to develop and build a new hospital in the south of the Hywel Dda area, somewhere between and including St Clears, in Carmarthenshire, and Narberth, in Pembrokeshire. This location is the most central for most of the population in the south of the Hywel Dda area, and it was determined through the public consultation held in 2018.

The public is also being asked to nominate sites for a new hospital based four criteria:.

  • The nominated site must be within the zone between and including St Clears in Carmarthenshire and Narberth in Pembrokeshire. This location is the most central to most of the population in the south of the Hywel Dda area.
  • The nominated site should be a minimum of 35 acres of reasonably developable land.
  • The nominated site should have realistic prospects of obtaining planning permission for a new hospital..
  • There should be appropriate transport infrastructure for a major hospital site.

Steve Moore, Chief Executive of Hywel Dda University Health Board, said:

“The global pandemic has had a major impact on all areas of our lives so it’s crucial that the health board considers, reflects and learns from this extraordinary period. This engagement exercise will allow the public to tell us in their own words how COVID-19 has affected their health and care, and access to it.

“I would encourage as many people as possible to participate because the feedback we receive will play a major role in helping shape future services. This in turn will allow us to deliver on our long-term commitment for a healthier mid and west Wales.

“I would also stress that this engagement exercise is part of an ongoing process. Over the coming months and years, we plan to engage with the public, stakeholders and partners on a wide variety of issues, such as service models. Everyone will have their chance to give their views and opinions because we are committed to continuous engagement with the public to ensure we provide the best possible care.

The engagement exercise will run until Monday 21st June 2021. Further information is available by visiting: haveyoursay.hduhb.wales.nhs.uk; emailing [email protected]; or calling 01554 889 056.

This engagement exercise will allow the public to tell us in their own words how COVID-19 has affected their health and care, and access to it.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn caniatáu i’r cyhoedd ddweud wrthym yn eu geiriau eu hunain sut mae COVID-19 wedi effeithio ar eu hiechyd a’u gofal, a’u mynediad at y gwasanaethau hyn.

Steve Moore – Chief Executive, Hywel Dda UHB (pictured) on the importance of this public engagement exercise.


Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Hywel Dda yn gofyn i bobl Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i helpu i lywio gwasanaethau’r dyfodol ymhellach, trwy gymryd rhan mewn ymarfer ymgysylltu dros gyfnod o chwe wythnos.

Ers cyhoeddi ei strategaeth, Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach: Cenedlaethau’r Dyfodol yn Byw’n Dda yn 2018, mae’r bwrdd iechyd wedi gweithio gyda phartneriaid i ddarparu gofal a datblygu gwasanaethau. Fodd bynnag, mae pandemig coronafeirws wedi cael effaith mawr ar wasanaethau iechyd a gofal. O ganlyniad, mae’r bwrdd iechyd am ddysgu gan y cyhoedd sut mae’r pandemig wedi effeithio ar eu hiechyd a’u gofal, a’u mynediad at y gwasanaethau hyn.

O Ddydd Llun, 10 Mai, mae BIP Hywel Dda yn dosbarthu dogfen drafod i’w hystyried gan y cyhoedd, ynghyd â holiadur i’w lenwi.

Mae BIP Hywel Dda hefyd yn gofyn am adborth y cyhoedd mewn perthynas â’i strategaeth hirdymor i ddatblygu ac adeiladu ysbyty newydd yn ne ardal Hywel Dda, rhywle rhwng ac yn cynnwys Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin ac Arberth yn Sir Benfro. Dyma’r lleoliad mwyaf canolog i fwyafrif y boblogaeth yn ne ardal Hywel Dda, a phenderfynwyd arno trwy ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn 2018.

Gall y cyhoedd hefyd enwebu safleoedd ar gyfer ysbyty newydd, a hynny yn seiliedig ar y pedwar maen prawf canlynol:

  • Rhaid i’r safle fod yn y parth rhwng ac yn cynnwys trefi Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin ac Arberth yn Sir Benfro. Dyma’r lleoliad mwyaf canolog ar gyfer mwyafrif y boblogaeth yn ne ardal Hywel Dda.
  • Dylai’r safle fod yn o leiaf 35 erw o dir y gellir ei ddatblygu’n rhesymol.
  • Dylai fod i’r safle debygolrwydd realistig o gael caniatâd cynllunio ar gyfer ysbyty newydd.
  • Dylai fod i’r safle isadeiledd trafnidiaeth digonol ar gyfer safle prif ysbyty.

Meddai Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

“Mae’r pandemig byd-eang wedi cael effaith ar bob agwedd ar ein bywydau felly mae’n hanfodol bod y bwrdd iechyd yn ystyried, yn myfyrio ac yn dysgu o’r cyfnod rhyfeddol hwn. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn caniatáu i’r cyhoedd ddweud wrthym yn eu geiriau eu hunain sut mae COVID-19 wedi effeithio ar eu hiechyd a’u gofal, a’u mynediad at y gwasanaethau hyn.

“Rwy’n eich annog un ac oll i gymryd rhan gan y bydd yr adborth yn chwarae rhan fawr yn y gwaith o lywio gwasanaethau’r dyfodol. Bydd hyn yn ei dro yn ein galluogi i gyflawni ein hymrwymiad hirdymor ar gyfer canolbarth a gorllewin iachach.

“Pwysleisiaf hefyd mai dechrau proses barhaus yw’r ymarfer ymgysylltu hwn. Dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, rydym yn bwriadu ymgysylltu â’r cyhoedd, rhanddeiliaid a phartneriaid ar amrywiaeth eang o faterion, megis modelau gwasanaeth. Bydd pawb yn cael y cyfle i ddweud eu dweud oherwydd ein bod wedi ymrwymo i ymgysylltu’n barhaus â’r cyhoedd i sicrhau ein bod yn darparu’r gofal gorau posib.”

Bydd yr ymarfer ymgysylltu yn para tan ddydd Llun 21 Mehefin 2021. Am wybodaeth bellach, trowch at: dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk; [email protected]; neu ffoniwch 01554 899 056.