Hywel Dda University Health Board’s latest initiative is attempting to combat loneliness and fear that patients may feel during this challenging time. Mae menter diweddarach Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ceisio curo unigrwydd ag ofn a theimlir gan gleifion yn ystod yr amser heriol yma.

Staying in touch with family members or friends in hospital is important, especially during these unprecedented times.

Hywel Dda University Health Board’s Patient Support Team is helping to maintain the contact between patients and family in a number of ways, such as sharing messages with loved ones, dropping off personal belongings and gifts or virtual visiting. 

The Health Board now offers a simple way you can send a message to your family member or friend in hospital, by filling in the online form found here: http://ratenhs.uk/Iuqqmz. The form is available in a range of languages. Alternatively you can email your message, with some photographs if you wish, to your loved ones by using our dedicated email address – [email protected] or telephone the patient support team for assistance.  

Once your message is received, it will be printed out and delivered safely to family member or friend in hospital on your behalf.

The Patient Support Team can also help relatives and/or carers to arrange the drop- off and pick-up of laundry and other essential personal items.

While visiting is only currently allowed in special circumstances, requiring specific measures to be put in place to protect our patients and our staff, we are able to arrange video-calling where appropriate, using a range of tools and software, such as Skype. 

Mandy Rayani, Director of Nursing, Quality & Patient Experience said, “It is more important than ever that we support patients and relatives in being able to stay in touch with each other at this time. 

“We recognise that patients gain enormous value for their well-being and recovery by being in touch with the important people in their lives, so we are very proud to be able to provide this support.”

The patient support team can be contacted 0300 0200 159 during the hours of 8am – 6pm Monday to Friday and 10 am to 2 pm, at weekends. For the latest news and updates from Hywel Dda University Health Board visit www,hywelddalhb.wales.nhs.uk


Mae cadw mewn cysylltiad ag aelodau o’r teulu neu ffrindiau yn yr ysbyty yn bwysig, yn enwedig yn ystod yr amseroedd digynsail hyn.

Mae Tîm Cymorth Cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn helpu i gynnal y cyswllt rhwng cleifion a’r teulu mewn nifer o ffyrdd, megis rhannu negeseuon ag anwyliaid, gollwng eiddo personol ac anrhegion neu ymweld o bell.

Mae’r Bwrdd Iechyd bellach yn cynnig ffordd syml y gallwch anfon neges at aelod o’ch teulu neu ffrind yn yr ysbyty, trwy lenwi’r ffurflen ar-lein: http://ratenhs.uk/Iuqqmz. Mae’r ffurflen ar gael mewn ystod o ieithoedd. Fel arall gallwch e-bostio’ch neges, gyda rhai ffotograffau os dymunwch, at eich anwyliaid trwy ddefnyddio ein cyfeiriad e-bost pwrpasol – [email protected]neu ffonio’r tîm cymorth i gleifion am gymorth.

Unwaith y derbynnir eich neges, bydd yn cael ei hargraffu a’i danfon yn ddiogel i aelod o’r teulu neu ffrind yn yr ysbyty ar eich rhan.

Gall y Tîm Cymorth i Gleifion hefyd helpu perthnasau a / neu ofalwyr i drefnu gollwng a chasglu dillad ac eitemau personol hanfodol eraill.

Er mai dim ond mewn amgylchiadau arbennig y caniateir ymweld ar hyn o bryd, gan ei gwneud yn ofynnol i fesurau penodol gael eu rhoi ar waith i amddiffyn ein cleifion a’n staff, gallwn drefnu galwadau fideo lle bo hynny’n briodol, gan ddefnyddio ystod o offer a meddalwedd, fel Skype.

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf, “Mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn cefnogi cleifion a pherthnasau i allu cadw mewn cysylltiad â’i gilydd ar yr adeg hon.

“Rydym yn cydnabod bod cleifion yn elwad yn fawr trwy fod mewn cysylltiad â’r bobl bwysig yn eu bywydau, felly rydym yn falch iawn o allu darparu’r gefnogaeth hon.”

Gellir cysylltu â’r tîm cymorth i gleifion 0300 0200 159 yn ystod yr oriau 8am – 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 10am a 2pm, ar benwythnosau.